Cafodd
Canolfan Gelfyddydau Porthmadog ei hagor yn 1975 yn
Ganolfan Gymunedol ar gyfer y dref. Ers hynny cafodd
ei defnyddio fel lleoliad i gynnal cyngherddau, partïon,
digwyddiadau chwaraeon yn cynnwys reslo ar y teledu,
arddangosfeydd, ffeiriau celf a chrefft a llawer mwy.
Mae mynediad a chyfleusterau llawn ar gael ar gyfer
pobl ag anabledd. |
Gellir
llogi dau le gwahanol – y Brif Neuadd
ac Ystafell Glaslyn.
Y Brif Neuadd
Yn
y Brif Neuadd y mae’r lle gwag mwyaf, ac mae’n
ddelfrydol ar gyfer cyngherddau a derbyniadau mwy. Yn ogystal
â’r cyfleusterau goleuo a sain ddiweddaraf un,
mae’r ystafell hon yn cynnwys system lle gellir codi’r
seddau a’r llwyfan i gyd. Pan mae popeth wedi’i
godi, gellir defnyddio arwynebedd y llawr i gyd; a phan mae’r
system yn ei lle, mae’n darparu llwyfan wedi’i
godi a seddau i hyd at 400 o bobl. O’r llwyfan gellir
cyrraedd yr ystafelloedd gwisgo (gyda thoiled a chawod) sydd
hefyd â chyfleusterau coluro a wardrob.
Am
bris a gwybodaeth llogi ystafell, cysylltwch a Mr Robert I
Griffiths, a
Chliciwch yma
 |
 |
| Seddau Codadwy – Wedi’u Gostwng |
Llwyfan Codadwy – Wedi’i Godi |
[Yn ôl i ben y tudalen]
Ystafell Glaslyn
Mae lle i fwy na 50 o bobl eistedd yn Ystafell
Glaslyn, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer derbyniadau llai
a phartïon plant. Atyniadau’r ystafell hon yw uwchdaflunydd
sleidiau, ac ystafell de a chafif sy’n edrych allan
dros yr harbwr. Os oes angen mae trwydded achlysurol ar gael.
Gellir
llogi Ystafell Glaslyn am brisiau rhesymol dros ben; £20
ar gyfer partïon plant, a £30 am gynadleddau. Codir
£10 yn ychwanegol am ddefnyddio cyfleusterau’r
gegin.
Bydd
hefyd system loop yn cael ei osod yma
Cliciwch yma i gysylltu â
ni er mwyn llogi’r ystafell hon neu i weld a yw hi ar
gael.
 |
 |
| Ystafell Glaslyn |
Cegin |
© ffotograffiaeth
G.D.M
[Yn ôl i ben y tudalen]
|